Job 24

Pam nad ydy Duw yn cosbi'r rhai drwg?

1Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn?
Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?
2Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau,
ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.
3Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad,
ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled.
4Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd,
ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
5Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch,
mae'r tlodion yn mynd allan i weithio,
ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith –
bwyd iddyn nhw a'u plant.
6Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill,
a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
7Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad,
heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
8Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm,
ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
9Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron,
a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
10Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad,
ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
11Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini,
ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
12Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas;
a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help;
ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
13Mae rhai pobl yn gwrthod y golau;
dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrdd
nac yn aros ar ei lwybrau.
14Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrio
i ladd y tlawd a'r anghenus;
mae e fel y lleidr yn y nos.
15Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu;
mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb,
gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
16Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos,
ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd –
dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
17Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch;
dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
18Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr.
Boed i'w dir e gael ei felltithio;
boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!
19Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu,
mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.
20Mae'r groth yn ei anghofio,
a'r cynrhon yn gwledda arno;
a fydd neb yn ei gofio eto;
bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.
21Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant,
ac yn cam-drin y weddw.
22Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus,
pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
23Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff,
ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.
24Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu;
maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt,
ac yn gwywo fel pen y dywysen.
25Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r peth
a dangos fy mod i'n siarad nonsens?”
Copyright information for CYM